P-04-650  Cael Gwared ar Gyflogau Cynghorwyr Llywodraeth Leol

Manylion:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gael gwared ar gyflogau Cynghorwyr. Gyda’r toriadau i wasanaethau cyhoeddus a’r cynydd yn y dreth gyngor, mae’n iawn fod cynghorwyr yn rhannu’r baich drwy gael gwared ar eu cyflog a chael ad-daliadau’n unig, fel ynadon. Bydd hyn yn helpu i arbed arian mewn democratiaeth leol ddrud.

Prif ddeisebydd: Geraint Williams

Ystyriwyd gan y Pwyllgor am y tro cyntaf:  6 Hydref 2015

Nifer y deisebwyr:82  llofnod ar lein